Hoff bethau Chris Roberts yw Caernarfon, Roxy'r ci a chreu bwyd epic - tiwniwch mewn i'w weld yn cwcio oistyrs a phaella i'w griw.
Y tro hwn bydd Chris yn cwestiynu pam dy' ni ddim yn prynu cig gafr, gan fynd ati i greu kebab gafr anferth i gwsmeriaid siop kebabs y dre!
Y tro hwn, fydd Chris yn mynd ati i brofi bod cyts rhad o gig llawn mor flasus â chig drud, mond i chi pimpio nhw i fyny!
Tro 'ma bydd Chris yn coginio oen cyfan gyda thân a mwg ar ei assador yng ngwyl 'Good Life' yn Sir Fflint - ei sialens fwyaf hyd yma.
Tro hwn fydd Chris yn chwilota am fadarch yn y goedwig ac yn paratoi stec i'r hogia i leddfu hangofyr!
Mewn pennod arbennig Nadoligaidd bydd Chris yn coginio buwch gyfan ac yn rhannu ei hoff rysáits Nadoligaidd.
Gwyliwch Chris yn cychwyn y gyfres newydd gyda swper 'sizzling' bwyd môr mewn man bwyta cyfrinachol yn Ninas Dinlle.
Mewn ymdrech i roi sbin Cofi ar fwyd Indiaidd, mae Chris am fynd i Bengal Spice, Caernarfon i ymarfer ei sgiliau.
Ym mhennod tri, mae Chris yn benderfynol o ddod â phobl at ei gilydd yn Twthill drwy daflu parti stryd 'old-scwl' gyda thro Mecsicanaidd.
Mae Chris yn teithio i Sir y Fflint er mwyn coginio gwledd ar gyfer The Good Life Experience.
Yn y bennod arbennig hon mae Chris yn teithio i Lundain i ymuno â'r cogydd talentog o Gymru, Tomos Parry, ac yn mynd ar daith o fwytai gorau'r ddinas.
Yn y bennod Nadolig arbennig hon, bydd Chris yn stwffio'r twrci (!) ac yn paratoi gwledd arbennig o helgig tymhorol a lleol.